Friday, 22 August 2014

Plas Brynkir Archaeology Day 5

Day 5 – 13/08/14

I returned to the location of yesterdays bottles by the fire place and continued to clean back and expose more of the slate floor. More bottles came to the surface and it is interesting to note several moss slates lie directly on top of the bottles. The bottles can be seen stacked on top of each other, most whole but some unfortunately broken and so great care is needed to remove them.

Four Hamilton bottles or torpedo bottles were found amongst the 3 types noted yesterday. 3 of the Hamilton bottles were embossed with the company name J Schweppe & Co, who we know today as Schweppes, produced between 1831 and 1895 and the location of Oxford Street and Berners Street along with “aerated waters” and “genuine superior”. The fourth Hamilton bottle was different, embossed with the company name Humphreys and the location as Port Madoc, making it the local town of Porthmadog.

The section believed to be a doorway that Mary is working on produced large pieces of iron and lead today. The exposed slate floor at the edge of the trench closest to the window alcove was recorded in photographs by Bill. The upper floor made up of larger stones was cleared of loose boulders by Bill and myself using a winch so that it can be photographed tomorrow. Unfortunately the rain stopped us working in the late afternoon as the site was too wet.


Diwrnod 5 – 13/08/14


Mi wnes i ddychwelyd at y lle oeddwn  i ddoe gyda’r poteli  wrth y lle tan a dal ati i llnau a dadorchuddio mwy o’r llawr llechen. Daeth mwy o boteli i’r amlwg ac mae’n ddiddorol dweud bod amryw o lechi a mwsog arnynt yn gorwedd ar ben y poteli. Mae llawer o’r poteli yn gorwedd ar ben ei gilydd rhai ‘n hollol gyfan ond yn anffodus mae rhai eraill wedi torri ac mae angen gofal mawr wrth eu dadorchuddio.

Daethpwyd o hyd i bedair potel “ Hamilton” neu “ torpedo” ymysg y 3 math a nodwyd ddoe. Nodwyd yr enw J Schweppe & Co ar 3 o’r poteli -y cwmni a adnabyddir heddiw i ni fel “ Schweppes” wedi eu gwneud rhwng 1831 a 1895 a’r lleoliad “Oxford street a Berners street” arnynt  ynghyd a “aerated waters a genuine superior.” Roedd y bedawredd botel Hamilton yn wahanol gyda enwi cwmni Humphreys arni a lleoliad Port Madoc hynny yw potel o dref leol Porthmadog.


Mae Mary wedi bod yn gweithio ar ran yr ydym yn feddwl sydd yn fynedfa  ac wedi darganfod talpiau o haearn a phlwm. Tynnodd Bill luniau o’r llawr llechen sydd wrth ymyl y ffenestr. Dadorchuddiwyd y llawr uchaf o gerrig anferth gan Bill a minnau drwy ddefnyddio winsh  er mwyn tynnu lluniau fory. Yn anffodus, bu rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith yn hwyr yn y p’nawn oherwydd y glaw.


Written by our fabulous blogger and volunteer, Lowri Roberts!

No comments:

Post a Comment