Friday, 22 August 2014

Plas Brynkir Archaeology day 3

Day 3 – 11/08/14

We continued to clean back the layer of slate and soil, following the level of the larger stones believed to be an upper floor towards the fire place so that the trench is all the same level. The wall built to block the hearth is seen at the far side of the trench and removing all the soil will give us a better insight in to its structure and condition. The uneven floor seems to stop about a meter away from the fireplace where it is replaced by boulders blocking the way.

The boulders will need to be cleaned so that they can be removed so that excavating the soil and slate layer may continue before we can determine whether or not the upper floor continues right up to the fire place.
There weren’t many finds today except for a few fragments of corroded iron, however, pieces of plaster are commonly found, often showing white in the soil and including shells that were added to it to increase its calcium content.


Diwrnod 3 – 11/08/14

Daliom ati i glirio yr haen uchaf o bridd a llechi gan ddilyn yr haen o gerrig mawr tuag at y lle tan. Mae’r cerrig sydd wedi cael eu defnyddio i flocio y lle tan drwy adeiladu wal i’w gweld ym mhen pella’r ffoes ac felly mae angen cadw at yr haen yr ydym arni nes cyrraedd y pen pella. Wrth wneud hyn, bydd y cerrig yn y lle tan yn dod yn fwy amlwg a cawn olwg ar sut mae nhw wedi cael eu gosod ac eu cyflwr. Mae’r llawr uchaf sef y cerrig anwastad yn gorffen tua medr i ffwrdd o’r lle tan am ryw reswm, ac yn ei le mae cerrig enfawr yn rhwystro’r ffordd.

Bydd angen llnau y cerrig sydd yn y ffordd er mwyn eu symyd i ni gael cario ymlaen i ddadorchuddio’r   pridd a’r llechi o danynt cyn i ni gael bod yn siwr bod y llawr uchaf ddim yn cario mlaen i ben pellaf y ffos.

Ni chawsom llawer o ddarganfyddiadau heddiw ond am dameidiau o haearn, er, mae talpiau o blaster wal yn cael eu gweld ar y safle yn aml. Mae o i weld yn cynnwys cregyn sydd yn amlwg wedi eu rhoi ynddo i ychwanegu fwy o galsiwm.


-Written kindly by Lowri Roberts, one of Love My Wales' amazing volunteers.

No comments:

Post a Comment